Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3, Senedd
a fideogynhadledd ar Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 5 Hydref 2022
Amser:
09.30 -
10.57
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13128
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS |
Tystion: |
Ken Skates AS, Comisiynydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) |
Rhag-gyfarfod preifat - Anffurfiol (09.15-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.
1.3 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, datganodd Peter Fox AS fuddiant o dan eitem 7, sef ei fod yn ffermwr ac yn derbyn y taliad sengl.
2 Papur(au) i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).
2.1 PTN 1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Craffu cyn y gyllideb - 28 Medi 2022
2.2 PTN 2 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) - 30 Medi 2022
3 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24: Sesiwn dystiolaeth
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24 gan y tystion a ganlyn: Ken Skates AS, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gyllideb a Llywodraethu; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd; a Nia Morgan, y Cyfarwyddwr Cyllid.
3.2 Cytunodd Comisiwn y Senedd i wneud y canlynol:
· Darparu nodyn ar y prosiectau a nodwyd ar gyfer 2023-24, sydd wedi'u cynnwys yng nghronfa prosiect y Comisiwn.
· Cylchredeg canllaw i Aelodau o’r Senedd ynghylch y system wresogi ac awyru yn swyddfeydd Tŷ Hywel.
· Darparu nodyn ar y blaenoriaethau lefel uchaf o fewn strategaeth y Comisiwn ar gyfer lleihau ei gostau ynni a'i ôl troed carbon.
· Darparu nodyn ar gymhwysedd y Comisiwn ar gyfer menter Llywodraeth Cymru, buddsoddi i arbed.
· Darparu nodyn ar strwythur staff y Comisiwn.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24: Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.
6 Goblygiadau ariannol Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru): Adroddiad drafft
6.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft a chytunodd arno.
7 Goblygiadau ariannol Bil Amaethyddiaeth (Cymru)
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dogfennau ategol a chytunodd i gymryd tystiolaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ar oblygiadau Ariannol Bil Amaethyddiaeth (Cymru).
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU: Adroddiad drafft
8.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft a chytunodd arno.
9 Adolygu Protocol y Gyllideb
9.1 Bu'r Pwyllgor yn ystyried y papur ar Brotocol y Gyllideb.